Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

 

Dyddiad:       8 Tachwedd 2017

Amser:           11:15-12:15

Lleoliad:        Papur tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i lywio’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2018-19  

 

Diben

1.    Darparu gwybodaeth am Gyllideb Ddrafft 2018-19 mewn perthynas â’r Gymraeg, yn dilyn cais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

 

Amseriad

2.     Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft fel rhan o broses dau gam; sef cyhoeddi cyllideb amlinellol (cam 1) ar 3 Hydref gyda chyllideb fanwl (cam 2) yn dilyn ar 24 Hydref.

    

Cefndir

3.    Ym mis Gorffennaf 2017 lansiodd Llywodraeth Cymru strategaeth newydd – Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg

 

4.    Mae Cymraeg 2050 yn cynnwys camau i gynyddu’r nifer sy’n caffael y Gymraeg drwy’r system addysg ac i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Gan hynny, mae’r meysydd polisi a oedd wedi’u cynnwys yn y strategaeth flaenorol: Iaith fyw: iaith byw (a’r datganiad polisi Iaith fyw: iaith byw – Bwrw Mlaen), yn ogystal â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, bellach wedi’u dwyn ynghyd mewn un ddogfen. Prif nodau’r strategaeth newydd yw:

 

5.    Ar y cyd â’r strategaeth, cyhoeddwyd dogfen Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2017-21.  Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein blaenoriaethau ni fel Llywodraeth yn ystod pedair blynedd cyntaf y strategaeth i osod sylfeini cadarn er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

 

Ymateb

 

6.    Darperir yr wybodaeth a ganlyn yn y drefn y gofynnwyd amdani yn y llythyr comisiynu dyddiedig 1 Medi 2017, o dan y penawdau isod:

·         Rhan 1: Sylwadau ar y camau gweithredu a manylion am ddyraniadau'r Llinellau Gwariant yn y Gyllideb

·         Rhan 2: Rhagor o wybodaeth

·         Rhan 3: Meysydd penodol

 

Rhan 1: Sylwadau ar y camau gweithredu a manylion am ddyraniadau’r Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL)   

 

7.    Mae’r tabl isod yn darparu crynodeb o’r gweithredoedd cyllidebol sy’n cefnogi strategaeth Cymraeg 2050:

 

 

Cyllideb

Gwelodlin

2017-18

£000

Cyllideb Ddrafft

2018-19

£000

Cyllideb Ddrafft

2019-20

£000

Gweithred: Y Gymraeg mewn Addysg 

 

BEL 5164

Y Gymraeg mewn Addysg

29,231*

31,361**

31,361**

Gweithred: Y Gymraeg

 

BEL 6020

Y Gymraeg

3,964

3,913

3,913

BEL 6021

Comisiynydd y Gymraeg

3,000

3,051

3,051

 

Cyfanswm

36,195

38,325

38,325

* Gan gynnwys £5m ychwanegol ar gyfer y Gymraeg fel rhan o’r cytundeb ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru

** Gan gynnwys £5m ychwanegol ar gyfer y Gymraeg, £0.5m i wella’r ddarpariaeth adnoddau addysgol dwyieithog, a £1m ar gyfer Mudiad Meithrin fel rhan o’r cytundeb ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru

 

8.    Cyni yw un o brif nodweddion gwariant cyhoeddus o hyd. Mae’r cyfnod hwn o ostyngiadau cyson i’r gyllideb wedi effeithio ar bob gwasanaeth, hyd yn oed y rheini y bu modd inni eu gwarchod rhywfaint. Mae’n golygu ein bod ni fel Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i wynebu penderfyniadau anodd.

 

9.    Er gwaethaf yr heriau ariannol amlwg mae ein hymrwymiad i’r Gymraeg mor gryf ag erioed, fel yr amlygwyd gan y targed heriol a osodwyd yn Cymraeg 2050. Mewn cyfnod ariannol sy’n gynyddol anodd ac ansicr, rydym wedi cynyddu’r gefnogaeth i’r Gymraeg o’i chymharu â lefelau 2016-17. Bydd hyn yn sicrhau buddsoddiad cyson er mwyn gosod y sylfeini sydd eu hangen wrth inni weithio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Dyraniadau Dangosol Prif Grŵp Gwariant (MEG) 2019-20

 

10. Diben y tair Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) yn y tabl uchod yw cefnogi ein strategaeth newydd, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg, a’r Rhaglen Waith gysylltiedig. Darperir manylion am bob BEL isod.

 

11. Mae Llinell Wariant ‘Y Gymraeg mewn Addysg’ (BEL 5164) yn cefnogi amcanion Cymraeg 2050 mewn perthynas ag addysg cyfrwng-Cymraeg ac addysg Gymraeg, sy’n cynnwys:

 

·                cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys gweithredu argymhellion Adolygiad Brys Aled Roberts o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESPs)

·                darparu hyfforddiant i ymarferwyr drwy’r Cynllun Sabothol

·                darparu hyfforddiant Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

·                comisiynu adnoddau addysgu a dysgu

·                hyrwyddo’r broses o drosglwyddo’r iaith mewn teuluoedd 

·                ymchwil, gwerthuso a marchnata yng nghyswllt elfennau addysg cyfrwng-Cymraeg y strategaeth

·                darparu rhaglen y Siarter Iaith 

·                ariannu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

12. Mae dyraniadau dangosol BEL ‘Y Gymraeg mewn Addysg’ (5164) yn 2018-19 a 2019-20 yn cynnig cynnydd o £2.130m yn y gyllideb.

 

Gostyngiad:

 

·                Fel rhan o’r adolygiad i ddygymod â chyllidebau llai, clustnodwyd gostyngiad o £300k drwy leihau’r cyllid ar gyfer sawl prosiect ar draws BEL y Strategaeth Addysg Gymraeg a BEL y Gymraeg, drwy arbedion o ganlyniad i gyfuniad o brosiectau’n dod i ben ac ailflaenoriaethu cyllid.  

 

Cynnydd:

 

·                trosglwyddiad o £330k o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru mewn perthynas â’r Cynllun Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg 

·                dyraniad o £1.5m o gronfeydd wrth gefn, gan gynnwys £500k ychwanegol ar gyfer gwella’r ddarpariaeth adnoddau addysg dwyieithog, a £1m ar gyfer ehangu Mudiad Meithrin fel rhan o’r cytundeb ar y gyllideb ddrafft â Phlaid Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at y £5m ar gyfer y Gymraeg sydd wedi’i gynnwys yn y llinell sylfaen fel cyllid rheolaidd 

·                trosglwyddiad o £600k mewn perthynas â Mudiad Meithrin (£300k o’r MEG Cymunedau a Phlant, a £300k o Linell Wariant y Cyfnod Sylfaen (BEL 5501)). Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi hyfforddi a datblygu staff ar gyfer y blynyddoedd cynnar.

 

13. Diben Llinell Wariant ‘Y Gymraeg’ (BEL 6020) yw cefnogi amcanion strategaeth newydd Cymraeg 2050 o safbwynt cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chefnogi’r seilwaith (mae gwybodaeth am y strategaeth newydd i’w gweld ym mharagraffau 3-5 uchod).  

 

14. Gwelir bod gostyngiad o £51k yn y dyraniad dangosol ar gyfer BEL 6020 yn 2018-19 a 2019-20. Mae hyn yn adlewyrchu trosglwyddiad blaenorol o £51k yn ystod y flwyddyn o BEL 6020 i BEL 6021, sy’n ariannu Comisiynydd y Gymraeg, a hynny er mwyn sicrhau bod dyraniad cyfan y Comisiynydd wedi’i gynnwys mewn un BEL. Am mai trosglwyddiad gweinyddol mewnol oedd hwn, mae’r gyllideb ar gyfer yr elfennau hynny yn y strategaeth sy’n ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg wedi parhau’n gyson â’r flwyddyn ariannol flaenorol.

 

15. Diben Llinell Wariant ‘Comisiynydd y Gymraeg’ (BEL 6021) yw ariannu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mae gan y Comisiynydd ystod eang o swyddogaethau a phwerau, sy’n cynnwys:

·         gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg

·         gosod dyletswyddau ar bersonau sydd y tu mewn i gwmpas y Mesur i gydymffurfio â safonau sy’n ymwneud â’r Gymraeg

·         cynnal ymholiadau i faterion sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Comisiynydd

·         ymchwilio i ymyrraeth honedig â rhyddid unigolyn i gyfathrebu yn y Gymraeg ag unigolyn arall

·         hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn arbennig yn y trydydd sector a’r sector preifat.

 

16.Mae’r dyraniad dangosol ar gyfer BEL 6021 yn 2018-19 a 2019-20 yn cynnig cynnydd o £51k yn y gyllideb. Fel y nodwyd ym mharagraff 14 uchod, mae’r ffigur hwn yn adlewyrchu trosglwyddiad blaenorol o £51k yn ystod y flwyddyn o BEL 6020 i BEL 6021, sy’n ariannu Comisiynydd y Gymraeg. Gan hynny, nid yw cyllideb Comisiynydd y Gymraeg wedi cynyddu o ganlyniad i’r addasiad hwn.

 

17.Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd wedi darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am y ddarpariaeth yn y gyllideb i gefnogi addysg cyfrwng-Cymraeg yn strategaeth Cymraeg 2050.

 

Alldro terfynol ar gyfer 2016-17 ac alldro a ragwelir ar gyfer 2017-18

 

18. Mae Atodiad 1 yn amlinellu’r alldro terfynol ar gyfer 2016-17, yr alldro a ragwelir ar gyfer 2017-18 ac alldro dangosol 2019-20.

 

Rhan 2: Rhagor o wybodaeth

 

19.O safbwynt sicrhau gwerth am arian, mae eglurder am sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithiol yn ganolog i gyflawni’r blaenoriaethau yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb.  Mae fy mlaenoriaethau’n glir:

·         Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050

·         Cynyddu canran y boblogaeth sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol o 10% i 20% erbyn 2050

·         Creu amodau ffafriol drwy wella’r seilwaith a meithrin yr hinsawdd i ganiatáu i’r iaith ffynnu 

 

20.Unwaith y bydd gwariant wedi’i gynllunio’n unol â’m blaenoriaethau, mae gennyf brosesau sefydledig er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol yn y ffordd y’u bwriadwyd. 

 

21.Wrth ymgynghori ar fersiwn ddrafft Cymraeg 2050 (ymgynghorwyd ar y cynigion polisi newydd am 12 wythnos rhwng 1 Awst a 31 Hydref 2016), gofynnom i’r cyhoedd a rhanddeiliaid beth ddylem eu blaenoriaethu yn ystod cyfnod cyntaf y strategaeth newydd. Defnyddiwyd yr ymatebion i lunio Rhaglen Waith 2017-21, sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu blaenoriaethu yn ystod cyfnod cyntaf y strategaeth i osod y sylfeini hollbwysig er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr.

 

22.Cyhoeddwyd gwerthusiad o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ym Mawrth 2016. Roedd hwn yn cynnwys gwerthusiad cyffredinol o’r strategaeth ynghyd â rhai o’r rhaglenni unigol, gan gynnwys y Cynllun Sabothol, y rhaglen comisiynu adnoddau, a phrosiectau i gefnogi dysgu ac addysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Mae canfyddiadau ac argymhellion y gwerthusiad hwn yn parhau i lywio datblygiadau polisi.

 

23. Rhan o gylch gwaith yr adolygiad annibynnol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017, oedd ystyried gwerth am arian o safbwynt cyllid y Coleg. Cyhoeddir ymateb llawn i’r adroddiad a’i argymhellion yn y dyfodol agos.

 

24.Yn 2017-18, dyrannwyd £200k fel rhan o BEL 5511 (Codi Safonau Ysgolion) i gefnogi rhaglen ymchwil a gwerthuso i lywio’r gwaith o ddatblygu addysg Gymraeg ac addysg cyfrwng-Cymraeg. Bydd hyn yn cynnwys rhagor o werthuso ar y Cynllun Sabothol, gwerthuso’r Siarter Iaith, ac ymchwil i lywio arferion gorau wrth ddysgu ac addysgu’r Gymraeg.

 

25.Wrth fesur ein cyrhaeddiad yn erbyn Cymraeg 2050 byddwn, wrth reswm, yn mesur ein cynnydd yn erbyn y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Ar gyfer y weinyddiaeth hon, bydd cynnydd wrth gyflawni’r targedau tymor byr a amlinellir yn Rhaglen Waith 2017-21 yn fesur o’n cynnydd tuag at amcanion Cymraeg 2050.

                                                                                                                

26.O safbwynt gwariant ataliol, nod ein targed o gynyddu darpariaeth Gymraeg y blynyddoedd cynnar o 40 grŵp meithrin erbyn 2021 yw meithrin dinasyddion dwyieithog y dyfodol. Mae Cylchoedd Meithrin yn cyfrannu at greu’r amodau sy’n meithrin siaradwyr Cymraeg newydd drwy drochi plant yn yr iaith a’i diwylliant, a thrwy helpu i fwydo ysgolion cyfrwng-Cymraeg. Mae’r gwariant hwn ar y blynyddoedd cynnar yn paratoi’r tir ar gyfer ymyriadau pellach, er enghraifft y Siarter Iaith (sydd â’r nod o wreiddio’r Gymraeg yn gynnar ymysg plant ysgol), ac sydd â’r potensial i leihau’r gwariant ar hyrwyddo ymysg grwpiau hŷn, am y bydd eu harferion ieithyddol eisoes wedi gwreiddio.

 

27.Mae’n bwysig nodi bod holl Ysgrifenyddion y Cabinet wedi ymrwymo i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i wella’n dull o wneud penderfyniadau am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cadw at yr egwyddor o ddatblygu cynaliadwy, ac amcan ein cynlluniau gwariant yw taro cydbwysedd rhwng blaenoriaethau tymor byr a rhai hirdymor.

 

28.Rhoddir gwybodaeth am ddyraniadau (a’u lleoliad) yn fy mhortffolio sy’n darparu ar gyfer deddfwriaeth, a’r goblygiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19, ym mharagraffau 40-43 isod.

 

29.O ran goblygiadau y DU yn gadael yr UE, sefydlodd Llywodraeth Cymru dîm penodol i gydlynu’r trefniadau pontio Ewropeaidd, sy’n cydweithio’n agos â’r tîm presennol ym Mrwsel ac adrannau polisi.  Am fod effaith Brexit mor bellgyrhaeddol, mae nifer o adrannau Llywodraeth Cymru hefyd yn blaenoriaethu eu hadnoddau presennol er mwyn ymateb i faterion sy’n codi o Brexit. Mae ailflaenoriaethu adnoddau yn ddull pwysig a chyfrifol, a bydd angen gwneud mwy i’r cyfeiriad hwn wrth inni gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau sydd i ddod.

 

Rhan 3: Meysydd penodol

 

Y diweddaraf am ddyraniadau yng nghyllideb 2017-18

 

30.Mewn perthynas â’r £3 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn y BEL Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2017-18, defnyddiwyd y cyllid hwn i gyflwyno’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’, sy’n darparu cefnogaeth a hyfforddiant i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. 

 

31.Darparwyd sesiynau gwybodaeth a chefnogaeth i ystod eang o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.  Mae’r rhain wedi rhoi cyngor i gyflogwyr ar sut i greu rhaglen effeithiol i ddatblygu gweithlu Cymraeg, a chlustnodi a dadansoddi anghenion hyfforddi Cymraeg.

 

32.Mae’r rhaglen yn cynnwys datblygu cyfres o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau ar-lein ar gyfer dechreuwyr, yn ogystal â chyfres o gyrsiau dwys a chyrsiau preswyl ar wahanol lefelau. 

 

33.Mae rhan benodol o’r rhaglen yn targedu sector y blynyddoedd cynnar. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio’n agos â Cwlwm – consortiwm mudiadau’r blynyddoedd cynnar – i ddadansoddi sgiliau Cymraeg ymarferwyr ar draws y sector. Mae’r Ganolfan hefyd yn datblygu rhaglen o gyrsiau hyfforddi Cymraeg wedi’i theilwra at anghenion y sector.

 

34.Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys rhaglenni peilot i ddatblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

 

35.O ganlyniad i’r cytundeb ar y gyllideb â Phlaid Cymru, roedd £5m ychwanegol ar gael ar gyfer y Gymraeg yn ystod 2017-18, a chafodd y cyllid hwn ei gynnwys yn y BEL Cymraeg mewn Addysg.  

 

36.Ar ôl dyrannu £3m o’r £5m hwn ar gyfer yGanolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, defnyddiwyd y £2m oedd yn weddill er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, yn unol â chytundeb 2017-18 â Phlaid Cymru.

 

37.Roedd hyn yn cynnwys £400k i helpu busnesau bach a chanolig (BBaCh) i fod yn fwy dwyieithog.  Nod y prosiect yw sicrhau bod cymorth ymarferol ar gael i BBaCh a microfusnesau (â llai na 10 o weithwyr) i’w helpu i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae Comisiynydd y Gymraeg yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i fusnesau mwy o faint – fodd bynnag, mae dros 90,000 BBaCh yng Nghymru heb fynediad at gefnogaeth neu gymorth i’w helpu i ddefnyddio rhagor o Gymraeg.

 

38.Yn y flwyddyn newydd, byddaf hefyd yn lansio “llinell gymorth” Cymraeg newydd fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg.  Bydd yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cyfieithiadau byr i fusnesau a mudiadau trydydd sector, ac yn eu cyfeirio at gymorth i’w helpu i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol (e.e. ar eu cyfryngau cymdeithasol, bwydlenni, hysbysebion). Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn cymell busnesau i ddod i gysylltiad ag ymarferwyr a fydd yn gallu eu cynorthwyo ymhellach i greu cynlluniau dwyieithog ar gyfer y gweithle.

 

39.Mae gweddill y cyllid ychwanegol ar gyfer 2017-2018 yn cael ei ddefnyddio i wella’r swyddogaeth hybu sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys dwy swydd newydd lle mae arbenigedd marchnata’r Gymraeg yn ofynnol, yn ogystal â swydd bolisi uwch i gyflawni’r rhaglen waith ehangach. Yn unol â blaenoriaethau strategaeth Cymraeg 2050 bydd y cyllid ychwanegol hefyd yn ariannu:

 

·         cynllun grant newydd i gefnogi Thema 2 y strategaeth Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

·         ymgyrchoedd marchnata cenedlaethol a/neu ymyriadau sy’n annog y defnydd o’r Gymraeg i gynulleidfaoedd targed sy’n flaenoriaeth (e.e. pobl ifanc 14-21 oed).

 

Y Papur Gwyn – Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg 

 

40.Mewn perthynas â’r goblygiadau i gyllideb 2018-19 y Gymraeg yn sgil cyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, ar y cam hwn o’i ddatblygu rhagwelir y bydd gweithredu Bil y Gymraeg yn fforddiadwy oddi mewn i BEL y Gymraeg.  Er hynny, er na ddisgwylir i gyfanswm y gost fod yn fwy na thybiaethau cynllunio’r BEL, mae’n debygol y bydd y rhaniad rhwng yr hyn a ddyrennir i’r Comisiynydd ar y naill law, a gweithgareddau hybu ar y llall, yn wahanol.  Ar y cam hwn, nid oes modd i ni bennu cyfran y rhaniad cyllidebol yn sgil y Bil, am fod hynny’n dibynnu ar benderfyniadau polisi nad yw’r Gweinidogion wedi eu gwneud hyd yn hyn. 

 

41.Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn i ddod â rhai o swyddogaethau’r Comisiynydd i mewn i’r Llywodraeth yn debygol o alw am gymorth cyfreithiol ychwanegol parhaus gan y Gwasanaeth Cyfreithiol. Bydd angen ystyried sut i ymdrin â’r galw hwn am adnoddau ychwanegol, gan gynnwys drwy flaenoriaethu ffrydiau gwaith. Bydd angen ymdrin â’r ystyriaethau hyn unwaith y bydd y polisi wedi’i benderfynu. 

 

42.Os bydd Gweinidogion yn dymuno ystyried opsiwn sy’n cynnwys ymchwilio i gwynion mewn perthynas â safonau’r Gymraeg gan yr Ombwdsmon, byddai angen i’r ystyriaethau o ran y gost ymdrin hefyd ag impact cyllido’r Ombwdsmon yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru yn hytrach na BEL y Gymraeg.

 

43.Mae swyddogion wrthi’n adolygu’r wybodaeth bresennol, ac yn ceisio pennu a oes angen comisiynu rhagor o ymchwil i sicrhau llinell sylfaen gadarn ar gyfer y costau a’r buddion y bydd angen eu hamlinellu yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA).

 

Cymraeg 2050

 

44. Mae Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESPs) yn sylfaen ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng-Cymraeg ledled Cymru. Yn hollbwysig, mae hyn hefyd yn cynnwys addysg ddwyieithog ac addysg Gymraeg. Cyflwynodd pob un o’r 22 awdurdod lleol eu WESPs i’w cymeradwyo ym mis Rhagfyr 2016. Fodd bynag, yn dilyn datganiad gennyf yn y Cynulliad ar 14 Mawrth 2017, gofynnwyd i Aled Roberts gynnal adolygiad brys o’r drefn bresennol ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg ledled Cymru. Dyrannwyd cyllideb o £50k o BEL 5164 yn 2017-18 i gynnal yr adolygiad hwn. Mae’r adroddiad terfynol yn cynnwys argymhellion ar sut i ddatblygu’r WESPs, yn ogystal ag argymhellion ar y cynlluniau unigol a ddrafftiwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer 2017-2020.

 

45. Mae’r awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid o nifer o ffynonellau i weithredu eu WESPs, gan gynnwys gweithgareddau a gefnogir ac a ddarperir drwy’r Grant Gwella Addysg (GGA). Wrth weithredu’r GGA, gofynnir i awdurdodau lleol y consortia rhanbarthol sicrhau yr ariennir y rhaglen weithgareddau i gyd-fynd â’r blaenoriaethau a nodir yn WESPs yr awdurdodau lleol.

 

46.Mae BEL y Gymraeg mewn Addysg hefyd yn cefnogi’r WESPs drwy raglenni i hybu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg a datblygu sgiliau iaith ymarferwyr drwy’r Cynllun Sabothol. Er ei fod yn anodd ei feintioli, mae’r gweithgaredd hybu a marchnata drwy raglen Cymraeg i Blant hefyd yn helpu i weithredu’r cynlluniau.

 

47.O safbwynt y cyllid sy’n gysylltiedig ag ehangu darpariaeth cyfrwng-Cymraeg y blynyddoedd cynnar, a’r amcan polisi o gynyddu’r ddarpariaeth o 40 o grwpiau meithrin erbyn 2021, dyfarnwyd £2.031m i Mudiad Meithrin yn 2017-18 i gefnogi a datblygu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng-Cymraeg. Mae’r cyllid hwn yn ariannu rhaglen eang o waith sy’n cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu eu WESPs, yn targedu cefnogaeth at ardaloedd dan anfantais a grwpiau anodd eu cyrraedd, yn cryfhau’r ddarpariaeth bresennol, ac yn helpu i sefydlu lleoliadau newydd. Mae hefyd yn cynnwys gwaith sydd â’r nod o ddatblygu’r gweithlu, gan gynnwys llwybrau i ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau Mudiad Meithrin ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, yn ogystal â hyfforddiant sgilau arbenigol fel sgiliau ieithyddol a thechnegau trochi.

 

48.Mae’r gwaith o gynllunio lle mae angen ehangu’r ddarpariaeth, yn unol â’r nod yn Cymraeg 2050 o sefydlu 40 yn ychwanegol o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg erbyn 2021, eisoes wedi dechrau. Bydd hyn yn cynnwys mapio’r ddarpariaeth a’r data ar gapasiti presennol yn erbyn yr wybodaeth a ddarperir yn WESPs ac Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yr awdurdodau lleol. Rhagwelir y bydd y £1m ychwanegol a ddyrannwyd i Mudiad Meithrin yng nghyllideb ddrafft 2018-19 yn chwarae rhan hollbwysig i hwyluso’r newidiadau sydd eu hangen i wireddu hyn.

 

49.O droi at ehangu hyfforddiant yn y gweithle er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg athrawon yn y sector cyn-16 ac ôl-16, fel rhan o BEL 5164 caiff £1.550m ei ddyrannu’n flynyddol i gyllido’r Cynllun Sabothol cenedlaethol sy’n darparu hyfforddiant Cymraeg dwys i ymarferwyr.

 

50. At hynny, fel y nodwyd ym mhapur tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn y Llinell Wariant Codi Safonau Ysgolion (BEL 5511) mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £4.205m ychwanegol yn 2017-18 i gefnogi dysgu ac addysgu’r Gymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

51.Bydd y cyllid hwn yn cynyddu £680k yn 2018-19 ac ymhellach o £265k yn 2019-20, yn amodol ar y gyllideb derfynol a chymeradwyaeth ohoni, er mwyn paratoi’r gweithlu i gyflenwi’r cwricwlwm Cymraeg newydd a chynyddu capasiti’r gweithlu addysg cyfrwng-Cymraeg.

 

52.Er mwyn cynyddu nifer yr athrawon cynradd ac uwchradd sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n addysgu’r Gymraeg fel pwnc, mae Cymraeg 2050 yn cynnwys targedau i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng-Cymraeg yn y sector uwchradd o 1,800 i 2,200 erbyn 2021.

 

53.Nid Addysg Gychwynnol i Athrawon (ITE) yw’r unig ffordd o gynyddu nifer yr athrawon. Mae fy swyddogion yn ystyried pob dull ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cynradd ac uwchradd drwy ITE a Lleoliadau Athrawon Graddedig. Mae fy swyddogion hefyd yn adolygu cynlluniau cymhelliant ac yn modelu cost creu cymhelliant i astudio ITE drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy’r ymgyrch Darganfod Addysgu, byddwn hefyd yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg gydag israddedigion, gyda’r nod o gynyddu’r nifer y myfyrwyr yn y blynyddoedd i ddod. Nid yw’r cyllidebau terfynol wedi eu pennu hyd yn hyn.

 

54.Mewn perthynas â datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg drwy’r Cynnig Gofal Plant newydd, ym mis Medi 2017 dechreuodd cyfnod peilot y Cynnig mewn ardaloedd penodol ledled y 7 awdurdod lleol a fydd yn profi’r cynnig.

 

55.Mae angen rhagor o ddata er mwyn deall yn llawn beth fydd y galw am ddarpariaeth cyfrwng-Cymraeg drwy’r Cynnig.  O’r herwydd, mae’n anodd rhagweld effaith y Cynnig ar hyn o bryd.

 

56.Bydd data a gasglwyd gan awdurdodau lleol, yn ogystal â gwerthusiad a wnaed yn ystod y cyfnod peilot, yn cynnig tystiolaeth ynghylch y galw a’r defnydd o ofal plant cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog fel rhan o’r Cynnig. Y bwriad yw cyhoeddi’r adroddiad gwerthuso terfynol ym mis Hydref 2018.

 

57.Er nad yw cyllideb y Gymraeg yn ariannu unrhyw ran o’r Cynnig Gofal Plant yn uniongyrchol, bydd angen i ni fod yn ymwybodol o ganfyddiadau’r gwerthusiad hwn a’r tueddiadau yn y data er mwyn gweld a oes modd i raglenni eraill, gan gynnwys rhaglen grant Mudiad Meithrin, ymateb iddynt.

 

Comisiynydd y Gymraeg 

 

58.Ar hyn o bryd mae’r Comisiynydd yn cael £3,051m gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn £51k yn uwch na 2017-18, ond trosglwyddiad gweinyddol mewnol yn unig yw hyn, er mwyn sicrhau bod cyllideb y Comisiynydd yn ei chyfanrwydd yn dod o’r un BEL.

 

59.Daeth Amcangyfrif y Comisiynydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 i law ar 3 Hydref. Yn y ddogfen honno, mae’r Comisiynydd yn nodi’n glir ei hanghenion cyllidebol ar gyfer 2018-19, gan gynnwys yr effaith ar ei gweithgareddau a’i chronfeydd wrth gefn o ganlyniad i beidio â chynyddu ei chyllideb. Byddaf yn rhoi ystyriaeth i’r ddogfen honno wrth i flaenoriaethau yn y MEG barhau i gael eu rheoli ar ôl cymeradwyo’r gyllideb. 

 

Patagonia

 

60.Mewn perthynas â grant Llywodraeth Cymru i’r rhaglen addysg ryngwladol, a’r trefniadau ariannu at y dyfodol, sefydlwyd Prosiect y Gymraeg ym 1997, ac yn 2012 daeth yn un rhan o’r Prosiect Addysg Ryngwladol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan y Cyngor Prydeinig. Ei nod yw galluogi plant ac oedolion ym Mhatagonia i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, yn ogystal â chynnal y cysylltiadau rhwng Patagonia a Chymru.

 

61.Mae tair rhan i Brosiect y Gymraeg:

·         Lleoliadau ym Mhatagonia ar gyfer athrawon / tiwtoriaid o Gymru;

·         Cefnogi rhwydwaith o diwtoriaid Cymraeg lleol;  

·         Cydlynydd y prosiect.

 

62. Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn derbyn cyllid gwerth £55k gan Lywodraeth Cymru drwy’r Prosiect Addysg Ryngwladol, £15k gan British Council Wales, a £4k gan Gymdeithas Cymru-Ariannin. Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn cynnwys cynlluniau i barhau i ariannu’r Prosiect Addysg Ryngwladol ar y lefel bresennol, gan gynnwys Prosiect y Gymraeg, yn amodol ar gytuno ar y gyllideb ddrafft a thrafodaethau â phartneriaid cyflenwi.

 

Y cyfryngau a darlledu 

 

63.O ran y cyfryngau a darlledu, mae ymrwymiadau Llywodraeth Cymru’n cynnwys adnodd staff (a ariennir o MEG Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu Llywodraeth Cymru) yn hytrach nag arian rhaglenni.

 

64.Mae cyllid Llywodraeth Cymru a sianelir drwy Gyngor Llyfrau Cymru, sydd ym mhortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yn cynnwys cyllid ar gyfer Golwg 360, a chefnogaeth ar gyfer y cyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes Golwg a Barn. Mae’r cyllid i’r Cyngor Llyfrau hefyd yn cefnogi cylchgronau Saesneg sy’n ymdrin â nifer o feysydd, gan gynnwys materion cyfoes a diwylliant.

 

65.Bydd Llywodraeth Cymru’n sefydlu fforwm newydd annibynnol i gynghori ar ddyfodol y cyfryngau a darlledu yng Nghymru. Yn ystod tymor yr hydref, bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysebu swydd Cadeirydd y Fforwm yn gyhoeddus. Ar ôl penodi’r Cadeirydd, ac ar y cyd â’r Cadeirydd, caiff aelodau eraill y Fforwm eu recriwtio. Y bwriad wedyn yw i’r Fforwm ddechrau ar ei waith cyn gynted â phosib. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i aelodau’r Fforwm gael eu talu, er y dylent allu hawlio costau teithio, cynhaliaeth a gofal plant rhesymol ar yr un sail â phaneli cynghori eraill. Bydd i hyn effaith gyllidebol, ond ni ellir ei feintioli ar hyn o bryd am nad yw maint terfynol y Fforwm wedi ei gytuno.

 



Atodiad 1

 

Dyraniadau Penodol yn y BELs

 

BEL

Dyraniadau Penodol

Alldro Terfynol 2016-17

£000

Alldro a Ragwelir 2017-18

£000

Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19
£000

Cyllideb Ddrafft Ddangosol 2019-20
£000

Y Gymraeg mewn Addysg

(BEL 5164)

 

Strategaeth Addysg cyfrwng-Cymraeg /

Elfen addysg Gymraeg strategaeth Cymraeg 2050

 

17,760

29,831

31,361

31,361

Y Gymraeg

(BEL 6020)  

Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chefnogi seilwaith

4,778

 

3,913

 

 

3,913

 

 

3,913

 

Comisiynydd y Gymraeg

(BEL 6021)

Ariannu swydd Comisiynydd y Gymraeg

3,065

3,051  

3,051  

3,051

Cyfanswm

 

25,603

36,795

38,325

38,325